Hyd yn oed


Meirion McIntyre Huws

 

Hyd yn oed os bydd pob tân yn Llŷn yn marw,
hyd yn oed os bydd y nos yn dod i ben,
a neb yn clywed clychau Cantre'r Gwaelod
a bod 'run lôn yn mynd i'r Garreg Wen;

hyd yn oed os yw'r Dref Wen yn enw diarth,
hyd yn oed os sychith gwely Llyn y Fan,
a bod golwg hagrwch cynnydd yn Eifionydd
a ffatri rhwng dwy afon yn Rhoslan;

hyd yn oed os ydyw'r ddrudwen ar ei chythlwng
a chorff yr Hedydd yn golygu dim,
a gwyddfid yn tywyllu Ffynnon Cybi,
a'r garreg wedi syrthio ym Mhont Cim;

hyd yn oed os deil y deri i ymdaro,
a bod ein holl farwnadau i gyd dan gen,
bydd rhai yn dal i fynd i ben y lonydd,
bydd rhai yn gwrthod chwifio'r faner wen.

 

Tanysgrifiwch i e-bost wythnosol CYMUNED, am ddim, er mwyn clywed pa waith rydym yn ei wneud - dros ein hiaith, dros ein cymunedau, dros ein gwlad.
Enw cyntaf:
      E-bost:

 

Beth ydy priod iaith y Fro Gymraeg?